![]() | |
Enghraifft o: | llofruddiaeth dorfol, gweithrediad milwrol ![]() |
---|---|
Dyddiad | 13 Ebrill 1919 ![]() |
Lladdwyd | 379, 1,500 ![]() |
Lleoliad | Jallianwala Bagh ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | y Raj Prydeinig ![]() |
![]() |
Ar 13 Ebrill 1919, lladdwyd 379 o sifiliaid di-arfau, heddychol ac anafwyd rhwng 1,200 a 1,500,[1] yn yr hyn a elwir heddiw yn Gyflafan Jallianwala Bagh (adnabyddir hefyd fel Amritsar massacre), Jallianwala Bagh, Amritsar, Punjab (India). Cerdded yn heddychlon, fel rhan o ddathliadau gŵyl grefyddol-ddiwylliannol Baisakhi oedd y dorf o bererinion, heb yr un arf rhyngddynt. Yn ddirybudd, taniodd milwyr 'Prydeinig' atynt gan greu cyflafan waedlyd.
Amdiffyniad y fyddin Brydeinig yn India oedd iddynt osod gwahardd ar gerdded fel hyn, dan amodau 'cyfraith rhyfel', ond nad oedd y cyhoeddiad hwnnw wedi'i wneud. Nid oedd yr un o'r dorf yn ymwybodol o'r gorchymyn hwn.
O bum mynediad (gweler y llun ar y dde, uchod) i sgwâr 7 acr (28,000 m2) gyda waliau uchel o'i gwmpas, dechreuodd y milwyr danio, a pharhaodd hynny am gyfnod o ddeg munud.[2] Yn ystod y dyddiau yn dilyn hyn, cyhoeddodd y Fyddin Brydeinig fod 379 wedi'u lladd a 1,200 wedi eu hanafu.[1][3] Yn ôl eraill, lladdwyd dros 1,000. Syfrdanwyd y genedl gyfan a llawer o wledydd eraill "gan greulondeb y Sais".[4] O ganlyniad troed yn erbyn gafael Lloegr yn y wlad gan y trigolion lleol.[5]
Cafwyd ymchwil i'r mater ac amddiffynnwyd Dyer gan Dŷ'r Arglwyddi cymaint nes troi'n betrol ar dân, a gwaethygodd y sefyllfa ac o hyn y ganwyd y Mudiad Gwrthod Cydweithredu a fu yn eu hanterth rhwng 1920 a 1922.[6]