Enghraifft o: | cyflafan |
---|---|
Dyddiad | 21 Mawrth 1960 |
Lladdwyd | 69 |
Lleoliad | Sharpeville |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Lladdfa a gyflawnwyd gan Heddlu De Affrica mewn ymateb i wrthdystiad gan dorf fawr o bobl dduon yn erbyn apartheid oedd cyflafan Sharpeville a ddigwyddodd ar 21 Mawrth 1960 yn nhreflan Sharpeville, ger Vereeniging yn nhalaith y Transvaal, De Affrica.
Cyhoeddodd y Gyngres Ban-Affricanaidd (PAC)—grŵp hollt o'r Gyngres Genedlaethol Affricannaidd (ANC)—brotestiadau i'w cynnal ar draws De Affrica ar 21 Mawrth 1960 i alw am ddiddymu deddfau'r pasbortau mewnol a ddefnyddiwyd i orfodi arwahanu hiliol yn y wlad. Cyfarwyddodd y PAC i brotestwyr wrthod eu paslyfrau, ac felly rhoi rheswm i'r heddlu eu harestio fel ffordd o anufudd-dod sifil. Ymgynnullodd rhyw 20,000 o bobl dduon ger gorsaf yr heddlu yn Sharpeville. Yn ôl yr heddlu, dechreuodd y dorf daflu cerrig atynt, ac ymatebant drwy saethu eu peirianddrylliau bychain. Bu farw 69 o bobl, ac anafwyd mwy na 180.[1]