Enghraifft o: | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | epilepsi, clefyd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae cyflwr epileptig neu status epilepticus (SE) yn ffit epileptig o fwy na phum munud neu fwy nag un ffit o fewn cyfnod o bum munud heb i'r person ddychwelyd i normal rhwng y ffitiau.[1] Gall y ffitiau fod o'r math tonig-clonig gyda phatrwm rheolaidd o gywasgu ac ymestyn y breichiau a'r coesau neu fathau nad ydynt yn cynnwys cyfyngiadau megis atafaeliadau absenoldeb neu atafaeliadau rhannol gymhleth.[1] Mae cyflwr epileptig yn gyflwr sy'n bygwth bywyd, yn enwedig os caiff triniaeth ei oedi.[1]
Gall cyflwr epileptig effeithio ar y sawl sydd â hanes o fyw efo epilepsi. Mae hefyd yn gallu effeithio ar bobl sydd â phroblem sylfaenol yr ymennydd.[2] Gall y problemau sylfaenol hyn cynnwys trawma, heintiau, neu strôc ymhlith eraill.[2] Mae diagnosis yn aml yn cynnwys gwirio siwgr gwaed, delweddu'r pen, profion gwaed ac electroenceffalogram. Gall ffitiau anepeleptig seicogenig dangos symptomau tebyg i gyflwr epileptig. Mae cyflyrau eraill sy'n gallu ymddangos symptomau tebyg i gyflwr epileptig yn cynnwys: hypoglycemia, anhwylderau symud, llid yr ymennydd, a deliriwm ymhlith eraill.[1]
Bensodiasepinau yw'r driniaeth gychwynnol a ddewisir fel arfer ar ôl hynny mae phenytoin yn cael ei roi.[1] Ymysg y bensodiasepinau sy'n cael eu defnyddio'n arferol mae lorazepam mewnwythiennol yn ogystal â phigiadau mewngyhyrol o midazolam.[3] Gellir defnyddio nifer o feddyginiaethau eraill os nad yw'r rhain yn effeithiol fel falporad, phenobarbital, propofol neu cetamin.[1] Efallai y bydd rhaid mewndiwbio i helpu i gynnal llwybr anadlu'r claf ar agor. Mae rhwng 10 a 30% o bobl sydd â chyflwr epileptig wedi marw o fewn 30 diwrnod.[1] Mae achos sylfaenol y ffit, oedran y claf a hyd yr atafaelu yn ffactorau pwysig sy'n effeithio ar y rhagolygon gwella. Mae cyflwr epileptig yn digwydd mewn tua 40 o bob 100,000 o bobl bob blwyddyn.[2] Mae'r cyflwr yn reswm ymweliad tua 1% o'r bobl sy'n ymweld ag adrannau brys ysbytai.[1]
Rhwng 2002 a 2005 bu farw cyfartaledd o 3.63 o bobl yng Nghymru o gyflwr epileptig yn flynyddol.[4]