Enghraifft o: | system gyfreithiol |
---|---|
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfraith yr Alban yw cyfundrefn gyfreithiol yr Alban. Mae'n gyfundrefn gyfreithiol gymysg, sy'n cynnwys cyfraith sifil ac elfennau o gyfraith gyffredin, sy'n olrhain ei gwreiddiau i nifer o ffynonellau hanesyddol.[1][2] Ynghyd â chyfraith Cymru a Lloegr a chyfraith Gogledd Iwerddon, mae'n un o dair cyfundrefn cyfreithiol y Deyrnas Unedig.[3]
Mae'n rhannu elfennau gyda'r ddwy gyfundrefn arall, ond mae ganddi hefyd ei ffynonellau unigryw ei hun. Dechreuwyd Gyfraith yr Alban cyn yr 11g, yn cynnwys elfennau cyfreithiol y Pictiaid, Gaeliaid, Brythoniaid, Eingl-Sacsoniaid a'r Llychlynwyr. Wrth sefydlu ffiniau Teyrnas yr Alban sefydlwyd gwreiddiau Cyfraith yr Alban, a gafodd ei dylanwadu hefyd gan draddodiadau cyfandirol e.e. cyfeirir at gyfraith Rufeinig, mewn ffurf wedi'i addasu, lle nad oedd gan yr Albanwyr frodorol reol i ddatrys anghydfod.
Mae Cyfraith yr Alban yn cydnabod pedair ffynhonnell o gyfraith: deddfwriaeth, cynsail cyfreithiol, ysgrifau academaidd penodol ac arferiad. Gall deddfwriaeth sy'n effeithio ar yr Alban gael ei basio gan Senedd yr Alban, Senedd y Deyrnas Unedig, Senedd Ewrop, a Chyngor yr Undeb Ewropeaidd. Mae rhywfaint o ddeddfwriaeth a basiwyd cyn-1707 gan hen Senedd yr Alban yn dal i fod yn ddilys. Ers Deddf Uno â Lloegr 1707, mae'r Alban wedi rhannu ddeddfwrfa â Chymru a Lloegr ond fe gedwodd yr Alban ei chyfundrefn gyfreithiol yn sylfaenol wahanol i'r un i'r de o'r ffin. Mae'r Undeb i ffurfio Prydain wedi dylanwadu yn fawr ar gyfraith yr Alban. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae cyfraith yr Alban hefyd wedi cael ei effeithio gan gyfraith Ewrop o dan ddylanwad Deddf Hawliau Dynol 1998 er mwyn cydymffurfio â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (CEHD). Wedi datganoli ac ailsefydlu Senedd yr Alban gall Senedd yr Alban basio deddfwriaeth o fewn pob ardal datganoledig, fel y nodir gan Ddeddf yr Alban 1998.[4][5]