Cyfrifiad yr Unol Daleithiau 1850 oedd seithfed cyfrifiad yr Unol Daleithiau. Fe'i gwnaed ar 1 Mehefin, 1850[1]. Canfu mai poblogaeth yr Unol Daleithiau oedd 23,191,876. Roedd hyn yn gynnydd o 35.9 y cant o Gyfrifiad 1840. Roedd cyfanswm y boblogaeth yn cynnwys 3,204,313 o gaethweision.
Hwn oedd y cyfrifiad cyntaf lle'r oedd ymgais i gasglu gwybodaeth am bob aelod o bob cartref, gan gynnwys menywod, plant a chaethweision. Dyma'r cyfrifiad cyntaf hefyd i ofyn am fan geni.