Cyfrifiad yr Unol Daleithiau 1880 a gynhaliwyd gan Fiwro'r Cyfrifiad yn ystod mis Mehefin 1880 oedd degfed Cyfrifiad yr Unol Daleithiau. Dyma'r tro cyntaf y caniatawyd i fenywod fod yn gyfrifwyr[1]. Prif Arolygydd y Cyfrifiad oedd Francis Amasa Walker[2].
Darganfydd cyfrifiad 1880 bod poblogaeth breswyl yr Unol Daleithiau yn 50,189,209, cynnydd o 30.2 y cant dros y 39,818,449 o bobl a rifwyd yng Nghyfrifiad 1870. Roedd canolfan gymedrig poblogaeth yr Unol Daleithiau ym 1880 yn Sir Boone Kentucky.
Cymerodd prosesu data cyfrifiad 1880 gymaint o amser (wyth mlynedd i gyd ) penderfynodd Biwro y Cyfrifiad i ofyn i Herman Hollerith i ddylunio ac adeiladu peiriant tablu i'w ddefnyddio ar gyfer y cyfrifiad nesaf. [3][4]