Cyfrifiad yr Unol Daleithiau 1840 oedd y chweched cyfrifiad i'w gynnal yn yr Unol Daleithiau. Fe'i gwnaed ar 1 Mehefin, 1840[1]. Canfu mai poblogaeth yr Unol Daleithiau oedd 17,069,453. Roedd hwn yn gynnydd o 32.7 y cant o Gyfrifiad 1830. Roedd cyfanswm y boblogaeth yn cynnwys 2,487,355 o gaethweision. Ym 1840, roedd canol y boblogaeth tua 260 milltir (418 km) i'r gorllewin o Washington, ger Weston, Gorllewin Virginia.