Enghraifft o: | sefydliad rhyngwladol, cymanwlad, sefydliad rhynglywodraethol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 8 Rhagfyr 1991 |
Rhagflaenwyd gan | Yr Undeb Sofietaidd, Soviet empire |
Sylfaenydd | Gwladwriaeth Ffederal, Sosialaidd, Sofietaidd Rwsia, Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin, Gweriniaeth Sofiet Sosialaidd Belarws |
Isgwmni/au | Union State |
Pencadlys | Minsk |
Enw brodorol | Müstəqil Dövlətlər Birliyi |
Gwefan | https://e-cis.info/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Corff rhyngwladol yw Cymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol (CIS) (Rwsieg: Содружество Независимых Государств (СНГ) - Sodruzhestvo Nezavisimykh Gosudastv) sy'n hybu cysylltiadau rhwng 12 o'r 15 o wladwriaethau a oedd yn rhan o'r Undeb Sofietaidd blaenorol. Nid yw'r gwledydd Baltaidd yn aelodau.
Yng Cytundebau Belovezh cytunodd arweinyddion Rwsia, Belarws a'r Wcráin sefydlu'r CIS ar 8 Rhagfyr 1991 yn Belovezhskaya Pushcha ger Brest ym Melarws, ac felly daeth yr Undeb Sofietaidd i ben. Arwyddwyd Protocol Alma-ata, sef cytundeb gan yr aelod-wladwriaethau eraill ar 21 Rhagfyr 1991 (heblaw am Georgia, a ymunodd ym 1993).
Er nad oes fawr o bŵer gan y Gymanwlad, mae hi'n bwysig serch hynny am ei bod yn cydlynu polisïau'r aelodau ym materion masnach, cyllid, y gyfraith ac amddiffyn. Un o'r materion pwysicaf i'r corff oedd sefydlu ardal masnach rydd yn 2005.