Enghraifft o: | sefydliad di-elw, coleg addysg bellach, sefydliad elusennol ![]() |
---|---|
Lleoliad | Llundain ![]() |
Lleoliad yr archif | Llyfrgell Genedlaethol Cymru ![]() |
![]() | |
Gweithwyr | 1,435, 1,266, 1,004, 1,446, 2,331 ![]() |
Ffurf gyfreithiol | sefydliad elusennol ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Rhanbarth | Llundain, Tower Hamlets ![]() |
Gwefan | http://www.wea.org.uk/ ![]() |
Corff a sefydlwyd i ddarparu mynediad i addysg i oedolion o unrhyw gefndir yw Cymdeithas Addysg y Gweithwyr neu CAG (Saesneg: Workers’ Educational Association neu WEA).
Dechreuodd y mudiad pan sefydlodd Albert Mansbridge An Association to promote the Higher Education of Working Men yn 1903. Newidiodd ei enw i Workers Educational Association yn 1905.
Ceir dau gorff ar wahan yng Nghymru, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (De Cymru) a Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (Gogledd Cymru). Sefydlwyd cangen Gogledd Cymru yn 1925 gan Robert Roberts (Silyn). Ers 1992/3, mae'r rhain yn hollol ar wahan i'r corff Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yn Lloegr a'r Alban. Mae corff ar wahan yng Ngogledd Iwerddon hefyd.
Ar 1 Awst 2001, ymunodd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (Gogledd Cymru) a Coleg Harlech i greu Cymdeithas Addysg y Gweithwyr Coleg Harlech.