Enghraifft o: | cymdeithas ddysgedig |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2010 |
Aelod o'r canlynol | All European Academies e.V. |
Pencadlys | Caerdydd |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Cymru |
Gwefan | https://www.learnedsociety.wales/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cymdeithas sy'n bodoli "i ddathlu, cydnabod, amddiffyn ac annog rhagoriaeth ym mhob un o'r disgyblaethau ysgolheigaidd" yw Cymdeithas Ddysgedig Cymru (Saesneg: The Learned Society of Wales). Lansiwyd y gymdeithas ar 25 Mai 2010 yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Fe'i lleolir yng Nghaerdydd.
Mae cymrodoriaeth y gymdeithas yn agored i rai sy’n byw yng Nghymru, a aned yng Nghymru neu sydd â chyswllt neilltuol â Chymru mewn rhyw fodd arall, sydd wedi "arddangos cofnod o ragoriaeth a chyrhaeddiadd" yn academia, neu a wnaeth gyfraniad disglair i ddysg yn eu maes proffesiynol. Mae gan Gymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru yr hawl i gyfeirio atynt eu hunain felly a defnyddio’r llythrennau FLSW ar ôl eu henw. Llywydd a Chadeirydd Cyngor cychwynnol y Gymdeithas oedd Syr John Cadogan.