![]() Plac ym Mhlas Tan y Bwlch, Eryri, yn coffáu pen-blwydd y gymdeithas yn 25 oed | |
Enghraifft o: | sefydliad ![]() |
---|---|
Rhan o | Llên Natur ![]() |
Pencadlys | Cymru ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Gwefan | https://cymdeithasedwardllwyd.cymru/ ![]() |
Cymdeithas i naturiaethwyr Cymraeg yw Cymdeithas Edward Llwyd. Sefydlwyd gan Dafydd Davies, Rhandirmwyn, yn 1978. Mae'r gymdeithas wedi'i henwi ar ôl y naturiaethwr Edward Llwyd (Edward Lhuyd). Mae'n gweithredu'n gyfangwbl trwy gyfrwng y Gymraeg. O ran trefniadau rhennir Cymru'n dair rhan: Gogledd Orllewin, Gogledd Ddwyrain a'r De. Maent yn cyhoeddi cylchgrawn achlysurol o'r enw Y Naturiaethwr.[1]