Cymraeg |
---|
WiciBrosiect Cymru |
Tafodiaith Cymraeg a sieredir yn y Wladfa yw Cymraeg y Wladfa. Mae rhwng 5,000[1] a 12,500[2] o bobl yn ei siarad fel mamiaith.
Cyfuniad o dafodieithoedd ar draws Cymru yw Cymraeg y Wladfa: clywir geiriau gogleddol a deheuol gan yr un siaradwr. Ceir dylanwad y Sbaeneg ar ynganiad ac ar eirfa, er enghraifft dywed nifer o Wladfawyr sobrino a sobrina yn lle'r geiriau Cymraeg "nai" a "nith".[3] Enghraifft arall yw'r ymadrodd "siarad drwy'r ffôn", sy'n efelychu'r ffurf Sbaeneg por teléfono, yn hytrach na "siarad ar y ffôn" fel yng Nghymru. Defnyddir geiriau llanw Sbaeneg, megis este a bueno, wrth siarad Cymraeg.[4]
|accessdate=
(help)