Cymru'n Un

Cymru'n Un
Enghraifft o:coalition agreement Edit this on Wikidata

Rhaglen ar gyfer llywodraethu Cymru a gytunwyd yng Ngorffennaf 2007 rhwng Grŵp Llafur a Grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol oedd Cymru'n Un.

Roedd nifer o Aelodau Seneddol Llafur o Gymru yn wrthwynebus iawn i'r cytundeb gan gynnwys Paul Murphy, AS Torfaen, Dr Kim Howells AS Pontypridd, a Don Touhig, AS Islwyn. Roedd pedair Aelod Cynulliad hefyd yn wrthwynebus sef Lynne Neagle (Torfaen), Ann Jones (Dyffryn Clwyd), Irene James (Islwyn), a Karen Sinclair (De Clwyd). Mynegodd Neil Kinnock hefyd ei wrthwynebiad. Serch hynny enillwyd cefnogaeth y Blaid Lafur i'r cytundeb ar 6 Gorffennaf 2007 gyda 78.43% o blaid ac 21.57% yn erbyn.

Yn sgil y Cytundeb daeth Rhodri Morgan o'r Blaid Lafur yn Brif Weinidog Cymru, a daeth Ieuan Wyn Jones o Blaid Cymru yn Ddirprwy Brif Weinidog.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne