Gwlad | Cymru (16 tîm) |
---|---|
Cydffederasiwn | UEFA |
Sefydlwyd | 2019 |
Lefel ar byramid | 2 |
Dyrchafiad i | Cymru Premier |
Disgyn i | Cynghrair 1 CBDC |
Cwpanau | Cwpan Cynghrair Cymru Cwpan Cymru |
2019–20 |
Mae Cymru South[1] yn gynghrair rhanbarthol pêl-droed sy'n ffurfio un hanner o Bencampwriaeth Cymru ("Champtionship Cymru"). Mae gan ei chlybiau statws rhan-broffesiynnol a dyma ail haen system byramid cynghreiriau Cymru. Blwyddyn gyntaf ei bodolaeth yw tymor 2019-20 lle mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru nawr yn berchen ac yn gweinyddu'r ail lefel am y tro cyntaf. Daw'r newidiadau yma yn sgil adolygiad o system Byramid Pêl-droed Cymru.[2]
Cyn 2019, y lîg gyfatebol oedd Cynghrair Cymru (Y De) oedd yn gyfrifol am ddeheubarth Cymru. Yn y Gogledd a Chanolbarth mae adran gyfatebol, sef Cynghrair Undebol. Mae'r hen Cynghrair Cymru (Y De) yn cael ei chadw ond yn symud lawr i 3ydd lefel system byramid newydd pêl-droed Cymru. Daeth y rhan fwayf o aelodau o'r adran Cymru South newydd o rengoedd timau'r hen Cynghrair Cymru (Y De).