Cyngar | |
---|---|
Cerflun o Gyngar Sant yn Congresbury yng Ngwlad yr Haf. | |
Ganwyd | c. 470 ![]() Cymru ![]() |
Bu farw | 27 Tachwedd 520 ![]() Jerwsalem ![]() |
Man preswyl | Cricieth ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | offeiriad ![]() |
Swydd | esgob, abad ![]() |
Dydd gŵyl | 7 Tachwedd ![]() |
Sant Cymreig cynnar oedd Cyngar, Cumgar neu Cungar (Lladin: Concarius) a aned c. 470 ac a fu farw o bosib ar 27 Tachwedd 520. Daeth i Gymru o Wlad yr Haf (rhan o Hen Deyrnas Cernyw). Enwir 27 Tachwedd fel dydd gŵyl Cyngar Sant. Dywedir ei fod yn esgob yng Ngwlad yr Haf. Ceir pentref ger Tyddewi, Sir Benfro o'r enw Llanungar (neu Llanwngar) a chredir iddo gael ei fagu yno.
Yn y 9g nododd Asser mae ei ddydd gŵyl oedd 27 Tachwedd.[1]
Ceir dwy fersiwn o 'fuchedd' Cyngar Sant:
Dywedir i Gyngar Sant, wedi iddo sefydlu mynachdy ger Congresbury yng Ngwlad yr Haf, groesi i Forgannwg, lle y glaniodd ar lannau Dawan. Ym Morgannwg sefydlodd ddwy fynachlog ond ni wyddys ym mhle, a daeth Cyngar i gysylltiad â'r brenin Poulentus ac â thywysog o'r enw Pebiau. Sylwer ar y tebygrwydd yn yr enwau: 'Cwngar' ('Congar' yn Saesneg) a Congr-esbury.
Yn ôl 'buchedd' Cybi Sant roedd Cybi a Chyngar yn perthyn i'w gilydd; cyd-deithiodd Cyngar gyda Chybi — yn gyntaf i Iwerddon ac wedyn i Fôn. Dywedir iddo farw ar ei bererindod i Gaersalem, a'i gladdu yn Congresbury.