Cynghanedd groes

Math o gynghanedd; nodwedd hynafol mewn barddoniaeth Gymraeg yw'r Gynghanedd Groes. Prif nodwedd y gynghanedd hon yw bod yr holl gytseiniaid ar ôl yr orffwysfa yn cael eu hateb gan yr un cytseiniaid, yn yr un drefn, o flaen yr orffwysfa.

Goddefir un "n wreiddgoll" yn y gynghanedd hon, sef hen oddefiad sy'n caniatáu i'r bardd i beidio ag ateb un "n" ar ddechrau'r llinell.

Dyma enghraifft o gynghanedd groes gytbwys acennog:

  • Gwaed y Groes a gwyd y graith
(g d gr' / g d gr')

Cyfatebir y cytseiniaid o flaen yr orffwysfa gan yr un cytseiniaid ar ôl yr orffwysfa.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne