Cynghrair Rygbi Genedlaethol

Mae'r Gynghrair Rygbi Genedlaethol (Saesneg: National Rugby League, NRL) yn gystadleuaeth rygbi'r gynghrair broffesiynol yn Awstralia a Seland Newydd. Mae gan y gystadleuaeth o leiaf un tîm yn y rhanbarthau canlynol; De Cymru Newydd, Queensland, Victoria, Prifddinas-dir Awstralia a Seland Newydd. Hon yw'r ail gystadleuaeth chwaraeon fwyaf yn Oceania; yn ail i Gynghrair Bêl-droed Awstralia (Saesneg: Australian Football League), AFL).


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne