Enghraifft o: | European political party |
---|---|
Idioleg | progressivism, regionalism, autonomism, cenedlaetholdeb, annibyniaeth, European values |
Dechrau/Sefydlu | 9 Gorffennaf 1981 |
Lleoliad yr archif | ADVN | archive for national movements |
Ffurf gyfreithiol | European political party |
Pencadlys | Dinas Brwsel |
Enw brodorol | European Free Alliance |
Gwladwriaeth | yr Undeb Ewropeaidd |
Gwefan | https://e-f-a.org |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Grŵp o bleidiau yn Senedd Ewrop yw Cynghrair Rhydd Ewrop (Saesneg: European Free Alliance, EFA; Ffrangeg: Alliance libre européenne). Mae'n cynnwys pleidiau cenedlaethol a rhanbarthol megis Plaid Cymru, Plaid Genedlaethol yr Alban, Unvaniezh Demokratel Breizh (Llydaw), Esquerra Republicana de Catalunya (Catalwnia) ac Eusko Alkartasuna (Gwlad y Basg); pleidiau sy'n ceisio annibyniaeth neu ddatganoli. Fel rheol, cyfyngir aelodaeth i bleidiau adain-chwith neu ganol, felly nid yw pob plaid genedlaethol yn Ewrop yn aelod. Ar hyn o bryd maent yn cydweithio â grŵp Gwyrddion Ewrop yn y Senedd Ewropeaidd.
Sefydlwyd y grŵp yn 1981, wedi i nifer o bleidiau cenedlaethol a rhanbarthol ennill seddau yn etholiad Senedd Ewrop, 1979, ond dim ond ar ôl etholiad 1989 y ffurfiwyd grŵp unedig. Yn dilyn etholiad Senedd Ewrop 2004, roedd gan y cynghrair bedwar Aelod Seneddol Ewropeaidd; dau o Blaid Genedlaethol yr Alban, un o Blaid Cymru (Jillian Evans) ac un o Esquerra Republicana de Catalunya (Chwith Weriniaethol Catalwnia); hanner y ffordd trwy gyfnod y senedd, cymerwyd lle yr olaf gan aelod o Eusko Alkartasuna .