Cynghrair bêl-droed yng ngogledd Cymru ydy Cynghrair Undebol y Gogledd sydd, am resymau nawdd, yn cael ei hadnabod fel Cynghrair Undebol Lock Stock (Saesneg: Lock Stock Welsh Alliance). Mae dwy adran i'r gynghrair gyda'r brif adran yn gyfystur i drydedd rheng Pyramid pêl-droed Cymru ac yn bwydo'r Gynghrair Undebol tra bod yr ail adran yn gyfystur â'r bedwaredd rheng o'r Pyramid pêl-droed yng Nghymru.
Caiff yr ail adran ei bwydo gan Gynghreiriau Gwynedd a Dyffryn Clwyd a Chonwy.