Enghraifft o: | asiantaeth lywodraethol |
---|---|
Dechreuwyd | 1472 |
Daeth i ben | 1689 |
Sylfaenydd | Edward IV, brenin Lloegr |
Pencadlys | Castell Llwydlo |
Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr |
Roedd Cyngor Cymru a'r Gororau neu Cyngor Cymru a'r Mers (teitl swyddogol, Saesneg: Court of the Council in the Dominion and Principality of Wales, and the Marches of the same) yn gorff gweinyddol ar gyfer Cymru a'r siroedd cyffiniol Swydd Amwythig, Swydd Henffordd, Swydd Gaerwrangon a Swydd Gaerloyw rhwng y 15fed a'r 17g. Roedd pencadlys y Cyngor yng Nghastell Llwydlo.[1]