![]() | |
![]() | |
Enghraifft o: | institution of the European Union, gweithrediaeth, cyngor ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 9 Rhagfyr 1974 ![]() |
Yn cynnwys | pennaeth llywodraeth, Rhestr Llywyddion y Comisiwn Ewropeaidd, President of the European Council ![]() |
Pennaeth y sefydliad | President of the European Council ![]() |
Rhiant sefydliad | yr Undeb Ewropeaidd ![]() |
Pencadlys | Europa building ![]() |
Enw brodorol | European Council ![]() |
Gwladwriaeth | yr Undeb Ewropeaidd ![]() |
Gwefan | https://www.consilium.europa.eu/en/, https://www.consilium.europa.eu/fr/, https://www.consilium.europa.eu/es/european-council/ ![]() |
![]() |
Corff gwleidyddol uchaf yr Undeb Ewropeaidd yw'r Cyngor Ewropeaidd (y cyfeirir ato hefyd fel Uwch-gynhadledd Ewropeaidd), sy'n cyfarfod tua phedair gwaith y flwyddyn. Mae'n cynnwys penaethiaid y gwladwriaethau neu'r llywodraethau o aelod-wladwriaethau'r Undeb, ynghyd â Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd. Yn y gorffennol, cadeirwyd y cyfarfod gan yr aelod o'r aelod-wladwriaeth sy'n dal Llywyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd. Yn 2009, creodd Cytundeb Lisbon llywydd parhaol. Herman Van Rompuy o Wlad Belg yw'r llywydd presennol.
Tra bod y Cyngor heb rymoedd gweithredol neu ddeddfwriaethol ffurfiol (corff yr Undeb yw ef, nid sefydliad), mae'n ymdrin â materion pwysig ac mae ei benderfyniadau yn cynrychioli'r prif ddylanwad mewn diffinio canllawiau gwleidyddol cyffredinol yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r Cyngor yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn o leiaf, yn yr adeilad Justus Lipsius ym Mrwsel fel arfer. Dylid gwahaniaethu rhwng y Cyngor hwn, Cyngor yr Undeb Ewropeaidd a Chyngor Ewrop.