Roedd Cynhadledd San Remo yn ddigwyddiad bwysig ac yn garreg filltir wrth ail-lunio map Ewrop wedi'r Rhyfel Mawr. Cynhaliwyd y gynhadledd gan y Cynghreiriaid buddugol rhwng 19 a 26 Ebrill 1920 y nhref Sanremo yn yr Eidal. Bwriad y Gynhadledd oedd cadarnhau ac chyfreithloni y drefn tiriogaethol a oedd yn rhan o'r ymraniad Ymerodraeth yr Otomaniaid, a gytunwyd rhwng Ffrainc a'r Deyrnas Unedig yng Nghytundeb Versailles a gynhaliwyd y flwyddyn cynt, yn 1919. Ers canol yr 20g arddelwyd y sillafiad Sanremo.