![]() | |
Enghraifft o: | cynhadledd, uwchgynhadledd ![]() |
---|---|
Label brodorol | Tehran Conference ![]() |
Gwlad | ![]() ![]() ![]() |
Dechreuwyd | 28 Tachwedd 1943 ![]() |
Daeth i ben | 1 Rhagfyr 1943 ![]() |
Rhagflaenwyd gan | Cynhadledd Cairo (1943) ![]() |
Olynwyd gan | Cynhadledd Yalta ![]() |
Lleoliad | Tehran, Embassy of Russia in Iran ![]() |
![]() | |
Enw brodorol | Tehran Conference ![]() |
![]() |
Cyfarfod rhwng Joseph Stalin, Franklin Roosevelt a Winston Churchill oedd Cynhadledd Tehran a gynhaliwyd yn Llysgenhadaeth Sofietaidd Tehran, prifddinas Iran, rhwng 28 Tachwedd a 1 Rhagfyr 1943 ar adeg dyngedfennol o'r Ail Ryfel Byd wrth i'r rhod ddechrau troi yn erbyn yr Almaen.
Hon oedd y gynhadledd ryfel gyntaf i Stalin ei mynychu. Pwrpas y trafodaethau yn y gynhadledd hon oedd pennu strategaeth y Cynghreiriaid yn erbyn yr Almaen Natsïaidd. Roedd y drafodaeth am agor ail ffrynt yng Ngorllewin Ewrop yn ganolog i hyn. Er mwyn cadw cymorth Stalin, aberthodd pwerau'r Gorllewin wladwriaethau dwyrain Ewrop. Nodwyd y gynhadledd mewn dogfennau gyda'r codename "Eureka".