![]() | |
Enghraifft o: | cynnig a fwriedir, memorandum, cynllun ![]() |
---|---|
Rhan o | aftermath of World War II, Allied plans for German industry after World War II ![]() |
Dechrau/Sefydlu | Awst 1944 ![]() |
Yn cynnwys | denazification, Allied plans for German industry after World War II, demilitarisation ![]() |
Olynydd | Cynllun Marshall ![]() |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
![]() |
Roedd Cynllun Morgenthau ("The Morgenthau Plan") yn gynllun arfaethiedig ar gyfer dyfodol yr Almaen wedi'r Ail Ryfel Byd a ddatblygwyd gan Henry Morgenthau, Ysgrifennydd Trysorlys Unol Daleithiau America.
Cyflwynwyd cynllun Morgenthau ar 9 Medi 1944 yn ystod ail gynhadledd Prydain-America yn Ail Gynhadledd Québec (11-16 Medi 1944) ac fe’i cefnogwyd gan Franklin D. Roosevelt, Arlywydd yr Unol Daleithiau a Winston Churchill, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig. Fe'i cynigwyr gyntaf gan Morgenthau mewn memorandwm o'r enw, Suggested Post-Surrender Program for Germany. Fe'i beirniadwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol UDA, Cordell Hull, a Gweinidog Tramor Prydain, Anthony Eden. Cafodd dderbyniad gwael yn f arn gyhoeddus a chylchoedd busnes America hefyd. Ar ddiwedd ym mis Tachwedd 1944 cafodd ei wrthod gan Roosevelt.