Cynog Ferthyr | |
---|---|
Ganwyd | 5 g ![]() Teyrnas Brycheiniog ![]() |
Bu farw | 492 ![]() Cymru ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | cenhadwr ![]() |
Blodeuodd | 5 g ![]() |
Dydd gŵyl | 7 Hydref ![]() |
Tad | Brychan ![]() |
Sant o Gymru oedd Cynog Ferthyr, Cynog ap Brychan neu'r Abad Cynog (bu farw 492). Dethlir ei ddydd gŵyl ar 7 neu 8 Hydref.
Yn ôl De Situ Brecheniauc Cynog oedd mab hynaf Brychan, brenin Brycheiniog. Yn ôl y Cognatio Brychan fe'i bedyddiwyd gan Sant Gastayn a oedd ag eglwys yn Mara, ger Llangasty Tal-y-llyn.
Dywedir i dad Brychan, Anlach, ei roi fel gwystl i Banadl, brenin Powys, pan oedd yn ifanc, ond cafodd Brychan berthynas gyda merch Banadl, sef Banhadlwedd a chafodd fab - Cynog.[1] Rhoddodd Brychan un o sawl torch o'i fraich yn anrheg i Cynon a chadwyd hi fel crair am ganrifoedd. Claddwyd ef ym Merthyr Cynog. Disgrifiodd Gerallt Gymro'r dorch fel 'breichled o liw, pwysau a theimlad ag aur; mae mewn pedair rhan wedi'u cysylltu gyda'i gilydd gan ben ci a'i ddannedd am allan' (Itin.Kamb., I.2). Cuddiodd Rhys ap Gruffudd, neu'r 'Arglwydd Rhys' y dorch er mwyn ei gadw'n ofalus yn Ninefwr (Itin. Kamb., II.2).
Cafodd ei ladd naill ai gan y Sacsoniaid neu gan fôrladron o Iwerddon ym Merthyr Gynog, Brycheiniog, yn y flwyddyn 492.