Cynthia Lennon | |
---|---|
Ganwyd | Cynthia Lillian Powell 10 Medi 1939 Blackpool |
Bu farw | 1 Ebrill 2015 o canser yr ysgyfaint Mallorca |
Man preswyl | Hoylake, Kenwood, St. George's Hill |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | artist, gohebydd gyda'i farn annibynnol |
Priod | John Lennon, John Twist, Roberto Bassanini |
Plant | Julian Lennon |
Arlunydd Seisnig oedd Cynthia Lennon (née Powell; 10 Medi 1939 – 1 Ebrill 2015). Hi oedd gwraig cyntaf y cerddor John Lennon a mam Julian Lennon.
Cafodd ei magu yn Hoylake, Cilgwri i deulu dosbarth canol. Bu'n fyfyrwraig yng Ngholeg Celf Lerpwl ble y cyfarfu â Lennon a oedd yn astudio caligraffi yn yr un adran. Wedi iddi feichiogi priododd y ddau ar 23 Awst 1962 yn Lerpwl. Ym 1968, gadawodd Lennon hi am Yoko Ono ac ysgarodd y ddau ar 8 Tachwedd 1968. Priododd yr Eidalwr Roberto Bassanini yn 1970 a'i ysgaru ym 1973. Priododd John Twist y drydedd waith - peiriannydd o Swydd Gaerhirfryn a bu'r ddau yn byw yn Rhuthun am gyfnod gan redeg Oliver's Bistro, yn Stryd y Ffynnon, ond ysgarodd yntau yn 1983. I ysgol fonedd Rhuthun yr aeth ei mab Julian.
Newidiodd ei henw'n ôl i 'Lennon' a bu'n bartner am 17 mlynedd i Jim Christie. Yn ystod yr adeg yma, ym 1978, sgwennodd lyfr A Twist of Lennon. Priododd am y pedwerydd tro - gyda Noel Charles, perchennog clwb nos, o 2002 hyd at ei farwolaeth yn 2013. Yn 2005, cyhoeddodd lyfr arall, mwy personol am ei chyfeillgarwch i John Lennon. Symudodd i fyw i Majorca, Sbaen lle y bu farw o gancr yn 75 oed.