Enghraifft o: | international parliament, prif ran o'r Cenhedloedd Unedig |
---|---|
Rhan o | system y Cenhedloedd Unedig, Y Cenhedloedd Unedig |
Dechrau/Sefydlu | 1945 |
Yn cynnwys | United Nations General Assembly First Committee, United Nations General Assembly Second Committee, United Nations General Assembly Third Committee, United Nations General Assembly Fourth Committee, United Nations General Assembly Fifth Committee, United Nations General Assembly Sixth Committee |
Pennaeth y sefydliad | President of the United Nations General Assembly |
Isgwmni/au | UNICEF, Rhaglen Datblygu'r Cenhedloedd Unedig, United Nations System Staff College, United Nations Commission on International Trade Law, Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Fasnach a Datblygu |
Rhiant sefydliad | Y Cenhedloedd Unedig |
Pencadlys | Pencadlys y Cenhedloedd Unedig |
Enw brodorol | United Nations General Assembly |
Gwefan | https://un.org/ga |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig (Saesneg: United Nations General Assembly - UNGA ; Ffrangeg: Assemblée générale, AG) yn un o bum prif corff y Cenhedloedd Unedig. Mae'n cynnwys yr holl aelod-wladwriaethau ac yn cwrdd o leiaf unwaith y flwyddyn mewn sesiwn dan gadeiryddiaeth llywydd a etholir gan y cynrychiolwyr. Cynhaliwyd y sesiwn gyntaf ar 10 Ionawr 1946 yn Neuadd Ganolog y Methodistiaid, (Methodist Central Hall) San Steffan yn Llundain, a mynychodd gynrychiolwyr o'r 51 aelod-wlad wreiddiol.
Er y defnyddir y term "gwlad" yn aml i ddisgrifio "cenedl-wladwriaeth" mae dweud gwlad yn gamareiniol. Mae Cymru yn "wlad" ond ddim yn "genedl-wladwrieth" (yn achos Cymru, y Deyrnas Unedig yw'r 'cenedl-wladwriaeth' - er bydd rhai yn dadlau nad yw'r DU yn "genedl"). Ceir hefyd endidau sydd rhwng statws gwlad yn unig a chenedl-wladwriaeth - megis except Taiwan, Gogledd Cyprus a Palesteina. Mae'r enidau yma yn derbyn rhyw fath o gydnabyddiaeth gan y Cenhedledd Unedig, ond nid cydnabyddiaeth lawn - nid ydynt yn aelodau o'r Cenhedloedd Unedig, ac nid oes ganddynt sedd na phleidlais ar Gynulliad Cyffredinol y CU. Mae gan Balesteina "statws arsylwr" (observer status).