Cynulliad Gogledd Iwerddon Tionól Thuaisceart Éireann Norlin Airlan Assemblie | |
---|---|
6ed Cynulliad | |
Gwybodaeth gyffredinol | |
Math | Unsiambriaeth |
Arweinyddiaeth | |
Llefarydd | Robin Newton, DUP ers 12 Mai 2016 |
Cyfansoddiad | |
Aelodau | 90 |
Grwpiau gwleidyddol | ' |
Tâl | £48,000 a chostau (£35,000 ar hyn o bryd) |
Etholiadau | |
Etholiad diwethaf | 2 Mawrth 2017 |
Etholiad nesaf | 5 Mai 2022 (neu gynt) |
Man cyfarfod | |
Siambr y Cynulliad | |
Man cyfarfod | |
Adeilad y Senedd, Stormont, Belfast | |
Gwefan | |
niassembly.gov.uk |
Cynulliad Gogledd Iwerddon (Gwyddeleg: Tionól Thuaisceart Éireann,[1]) yw'r corff deddfwriaethol datganoledig ar gyfer materion mewnol Gogledd Iwerddon. Mae'n cwrdd yn Adeilad y Senedd (Stormont), Belffast.
Mae'n un o ddau sefydliad "cyd-ddibynol" (mutually inter-dependent) a grewyd yn 1998 gan Gytundeb Gwener y Groglith, yr ail sefydliad yw Cyngor Gweinidogion y Gogledd/De, ar y cyd gyda Gweriniaeth Iwerddon. Pwrpas y cytundeb hwn oedd tawelu 'Yr Helyntion' milwrol a fu yng Ngogledd Iwerddon am gyfnod o 30 mlynedd. Mae Cynulliad Gogledd Iwerddon wedi'i ethol yn ddemocrataidd o 108 o aelodau a elwir yn 'Aelodau Cynulliad Deddfwriaethol (Gogledd Iwerddon)' (byrfodd arferol: MLA). Defnyddir math o sytem pleidlais sengl drosglwyddadwy sydd hefyd yn ymgorffori'r system Cynrychiolaeth gyfrannol. Penodir y Gweinidogion i Bwyllgor Gwaith Cynulliad Gogledd Iwerddon drwy rannu pwer, gan ddefnyddio dull D'Hondt, sy'n sicrhau fod gan y ddwy brif garfan (yr Unoliaethwyr a'r Cenedlaetholwyr) ran o'r gacen.
Ychwanegwyd at bwerau'r Cynulliad ar 12 Ebrill 2010, pan gafodd y Cynulliad bwerau'n ymwneud â'r Heddlu a Chyfraith.