Cynulliad dros Athrawiaeth y Ffydd

Cynulliad dros Athrawiaeth y Ffydd
Enghraifft o:cynulleidfa Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu21 Gorffennaf 1542 Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifCynulliad dros Athrawiaeth y Ffydd Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadPennaeth y Cynulliad dros Athrawiaeth y Ffydd Edit this on Wikidata
Map
RhagflaenyddCynulleidfa Gysegredig y Swyddfa Sanctaidd Edit this on Wikidata
OlynyddDicastery for the Doctrine of the Faith Edit this on Wikidata
PencadlysPalas y Swyddfa Sanctaidd Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Fatican Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yr hynaf o'r naw cynulliad yn Llys y Pab yw'r Cynulliad dros Athrawiaeth y Ffydd (Lladin: Congregatio pro Doctrina Fidei, CDF). Sefydlwyd y Cynulliad dros y Chwilys Cyffredinol ar 21 Gorffennaf 1542 gan y Pab Pawl III i amddiffyn yr Eglwys yn erbyn heresi. Newidodd yr enw i Gynulliad y Swyddfa Sanctaidd ym 1908, ac yna'r Cynulliad dros Athrawiaeth y Ffydd ym 1965. Ei swyddogaeth bresennol yw i gyhoeddi ac amddiffyn athrawiaeth yr Eglwys Gatholig Rufeinig. Lleolir ei bencadlys ym Mhalas y Swyddfa Sanctaidd, y tu allan i Ddinas y Fatican ar diriogaeth Eidalaidd sy'n eiddo i Esgobaeth y Pab.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne