Cysawd yr Haul

Cysawd yr Haul

Mae Cysawd yr haul (hefyd Cyfundrefn yr haul) yn cynnwys yr haul a'r gwrthrychau cosmig sydd wedi'u clymu iddo gan ddisgyrchiant: wyth planed, eu 162 o loerennau, tair planed gorrach a'u pedair lloeren, a miloedd o gyrff bach, gan gynnwys asteroidau, sêr gwib, comedau, a llwch rhyngblanedol.

Mewn termau eang, mae Cysawd yr Haul yn cynnwys yr Haul, pedwar corff creigiog a elwir y planedau mewnol, gwregys mewnol o asteroidau, pedair planed enfawr allanol (a elwir cewri nwy), ail wregys o gyrff bach rhewllyd a elwir Gwregys Kuiper, cwmwl enfawr o gomedau a elwir y Cwmwl Oort, a rhanbarth o blanedau llai rhewllyd a elwir y Ddisg Wasgaredig.

Ffurfiodd Cysawd yr Haul tua 4.5 biliwn o flynyddoedd yn ôl, wrth i gwmwl o nifwl ddymchwel ar ei hun, drwy rymoedd disgyrchiant, i wrthrych a elwir yn Gorrach Melyn, gan ddechrau adwaith ymasiad niwclear, yn llosgi hydrogen i gynhyrchu heliwm. Erbyn hyn, mae'r haul yn ei gyfnod prif ddilyniant, sydd yn golygu bod grymoedd disgyrchiant a gwasgedd pelydriad yn hafal, ac felly mae'r haul yn aros yr un maint.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne