Stamp o'r Ffindir yn cofnodi Cytundeb Paris, Pax Paris 1947Map Ewrop yn dangos ffiniau Ffindir, Hwngari, Rwmania a'r Eidal ar ei helaethaf, 1942 cyn Cytundeb ParisMap Ewrop yn ôl blociau economaidd 1957-58, yn dangos ffiniau Ewrop ôl Cytundeb Paris ac ôl cytundeb ar ffiniau Trieste
Cytundeb heddwch oedd Cytundeb Paris a lofnodwyd ym mhrifddinas Ffrainc ar 10 Chwefror 1947 ac a oedd yn ganlyniad terfynol y gynhadledd heddwch a gynhaliwyd yn yr un ddinas rhwng 29 Gorffennaf a 15 Hydref 1946. Gan y bu y trafodaethau i gyd yn 1946 cyfeirir ato mewn rhai mannau fel Cytundeb Paris 1946. Ei henw llawn yw Cytundeb Heddwch Paris. Y gwladwriaethau a lofnododd y Cytundeb oedd:
Cynghreiriaid buddugol yr Ail Ryfel Byd: Yr Unol Daleithiau, yr Undeb Sofietaidd, y Deyrnas Unedig, Ffrainc, Iwgoslafia, Gwlad Pwyl, Gwlad Groeg, Tsiecoslofacia ac eraill.
Gwledydd oedd wedi'u cynghreirio gyda'r Almaen yn ystod y gwrthdaro byd a elwir yn bwerau Echel (er i nifer ohonynt newid eu hochr wrth i'r Rhyfel fynd yn ei flaen): Yr Eidal, Rwmania, Hwngari, Bwlgaria a'r Ffindir. Ni allai'r Almaen gymryd rhan oherwydd iddi gael ei meddiannu gan bedwar pŵer buddugol y rhyfel ac nid oedd yn cael ei hystyried yn destun cyfraith ryngwladol.
Roedd gan y cytuniadau gymalau tiriogaethol, cymalau economaidd fel gwneud iawn am ryfel ac yn olaf cymalau gwleidyddol. Y nod oedd dadwneud y newidiadau tiriogaethol a orfodwyd neu a ysbrydolwyd gan yr Almaen Natsïaidd er 1938.[1]
↑Treaties of Peace with Italy, Bulgaria, Hungary, Roumania and Finland (English Version). Washington, D.C.: Department of State, U.S. Government Printing Service. 1947. t. 17. hdl:2027/osu.32435066406612.