![]() | |
Enghraifft o: | cytundeb ![]() |
---|---|
Iaith | Maori, Saesneg ![]() |
Lleoliad | Waitangi ![]() |
Gwladwriaeth | Seland Newydd ![]() |
![]() |
Arwyddwyd Cytundeb Waitangi (Saesneg:Treaty of Waitangi, Māori: Tiriti o Waitangi) ar 6 Chwefror 1840 gan gynrychiolwyr Coron Prydain a phenaethiaid Māori amrywiol o Ynys y Gogledd, Seland Newydd.
Arweiniodd y Cytuniad at sefydlu swydd Llywodraethwr Prydain dros Seland Newydd, cydnabyddiaeth o berchnogaeth y Māori dros eu tiroedd a’u heiddo, ac fe roddwyd i’r Māori hawliau fel deiliaid Prydeinig. Mae fersiynau Saesneg a Māori y Cytundeb yn wahanol yn sylweddol, felly nid oes consensws ynghylch beth yn union y cytunwyd iddynt. O safbwynt Prydain, rhoddodd y Cytundeb sofraniaeth i Brydain dros Seland Newydd a’r hawl i’r Llywodraethwr i lywodraethu'r wlad. Credodd y Māori ar y llaw arall eu bod yn ildio i'r Goron yr hawl i lywodraethu mewn cyfnewid am ddiogelwch, a’u bod yn parhau i fod ag awdurdod i reoli eu materion eu hunain.[1] Ar ôl y llofnodi cychwynnol yn Waitangi, aed â chopïau o'r Cytundeb o gwmpas Seland Newydd a thros y misoedd canlynol fe’i llofnodwyd gan benaethiaid eraill. Roedd cyfanswm o naw copi o'r Cytundeb Waitangi gan gynnwys y gwreiddiol a'i llofnodwyd ar 6 Chwefror 1840.[2] Fe wnaeth tua 530-540 o benaethiaid, o leiaf 13 ohonynt yn fenywod, arwyddo Cytuniad Waitangi.[3][4]
Hyd at y 1970au, ystyrir bod y Cytundeb yn gyffredinol wedi gwasanaethu ei bwrpas yn Seland Newydd y 1840au, ac fe'i hanwybyddwyd gan y llysoedd a senedd fel ei gilydd. Fe’i dehonglwyd yn hanes Seland Newydd fel gweithred hael ar y rhan Coron Prydain, a oedd ar y pryd yn ei anterth.[5] Mae’r Māori wedi edrych tuag at y Cytundeb am ddatrysiadau mewn achosion o gam-drin hawliau, colli tir a thriniaeth anghyfartal gan y wladwriaeth, gyda llwyddiant cymysg. O ddiwedd y 1960au dechreuodd y Māori dynnu sylw at achosion o dorri'r Cytundeb, ac mae hanes diweddar wedi pwysleisio problemau gyda'r cyfieithiad Māori o’r cytundeb.[6] Yn 1975, sefydlwyd Tribiwnlys Waitangi fel comisiwn parhaol gyda’r dasg o ymchwilio i achosion o dorri’'r Cytundeb gan y Goron neu ei gynrychiolwyr ac awgrymu dulliau o wneud iawn am hyn.
Heddiw fe’i hystyrir yn gyffredinol fel y ddogfen a sefydlodd Seland Newydd fel cenedl. Er hyn, mae'r Cytundeb yn aml yn destun dadlau brwd, a llawer o anghytuno rhwng y Māori a’r rhai o Seland Newydd nad ydynt o dras Māori. Mae llawer o’r Māori yn teimlo nad yw'r Goron yn cyflawni ei rwymedigaethau o dan y Cytundeb, ac wedi cyflwyno tystiolaeth o hyn o flaen y Tribiwnlys. Mae rhai nad ydynt o dras Māori wedi awgrymu bod y Māori yn camddefnyddio'r Cytundeb er mwyn hawlio "breintiau arbennig".[7][8] Yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes raid i’r Goron weithredu ar argymhellion y Tribiwnlys, ond serch hynny mewn sawl achos, mae’r Goron wedi derbyn ei bod yn torri'r Cytundeb a'i egwyddorion. Hyd yn hyn mae setliadau wedi cynnwys cannoedd o filiynau o ddoleri o iawndal mewn arian parod ac asedau, yn ogystal ag ymddiheuriadau.
Mae dyddiad y llofnodi bellach yn wyliau cenedlaethol ers 1974, ac fe elwir y diwrnod yn Ddiwrnod Waitangi.