Enghraifft o: | sefydliad rhyngwladol, cynghrair milwrol |
---|---|
Y gwrthwyneb | Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd |
Daeth i ben | 1 Gorffennaf 1991 |
Dechrau/Sefydlu | 14 Mai 1955 |
Yn cynnwys | People's Socialist Republic of Albania, Gweriniaeth Pobl Bwlgaria, Gwladwriaeth Sosialaidd Tsiecoslofac, Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen, Gweriniaeth Pobl Hwngari, Gweriniaeth Pobl Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Sosialaidd Rwmania, Yr Undeb Sofietaidd |
Gweithwyr | 7,300 |
Pencadlys | Moscfa |
Enw brodorol | Договор о дружбе, сотрудничестве и взаимной помощи |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynghrair milwrol oedd Cytundeb Warsaw. Fe'i sefydlwyd er mwyn diogelu'r aelod-wladwriaethau rhag bygythiad gan NATO (a sefydlwyd ym 1949) ar ôl i Orllewin yr Almaen ymuno â'r sefydliad hwnnw. Drafftiwyd y cytundeb gan Khrushchev ym 1955 ac fe'i arwyddwyd ar 14 Mai 1955 yn Warsaw.
Aelodau'r Cytundeb oedd:
Arwyddwyd y cytundeb gan bob un o wledydd Dwyrain Ewrop, heblaw am Iwgoslafia. Pwrpas y cytundeb oedd amddiffyn aelodau rhag ymosodiad o'r tu allan. Daeth y cytundeb i ben ar 31 Mawrth 1991 ar ôl cwymp comiwnyddiaeth yn Nwyrain Ewrop, ac fe'i ddiddymwyd yn swyddogol ar 1 Gorffennaf ym Mhrâg. Gadawodd Albania'r cytundeb ym 1961 ar ôl i'w llywodraeth Stalinaidd ochri gyda Tsieina yn dilyn hollt rhwng yr Undeb Sofietaidd a Tsieina.