Enghraifft o: | symudiad celf, mudiad llenyddol, mudiad diwylliannol, arddull mewn celf |
---|---|
Math | avant-garde |
Dechrau/Sefydlu | 1910s |
Olynwyd gan | Swrealaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd Dada yn fudiad celfyddydol avant-garde Ewropeaidd ar ddechrau'r 20g. Dechreuwyd yn wreiddiol yn Zürich, Y Swistir ym 1916 fel ymateb yn erbyn erchylltra a gwallgofrwydd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Roedd peintiadau, barddoniaeth a pherfformiadau artistiaid Dada yn aml yn ddychanol neu'n ymddangos yn absẃrd[1]
Ymhlith prif ymgyrchwyr y mudiadad roedd: Hugo Ball, Emmy Hennings, Hans Arp, Raoul Hausmann, Hannah Höch, Johannes Baader, Tristan Tzara, Francis Picabia, Richard Huelsenbeck, George Grosz, John Heartfield, Marcel Duchamp, Beatrice Wood, Kurt Schwitters, Hans Richter, a Max Ernst.