Allorlun Gent (1432) gan Jan a Hubert van Eyck, Cadeirlan Sant Bavo, Gent, Fflandrys (Gwlad Belg heddiw). | |
Enghraifft o: | symudiad celf, arddull pensaernïol, arddull, mudiad diwylliannol |
---|---|
Rhan o | y Dadeni Dysg |
Lleoliad | Gogledd Ewrop |
Y ffurf ar y Dadeni Dysg a ddigwyddodd yng ngwledydd Ewrop i ogledd mynyddoedd yr Alpau, yn enwedig yr Almaen, Ffrainc, y Gwledydd Isel, Lloegr, a Gwlad Pwyl, oedd Dadeni'r Gogledd. Cychwynnodd y Dadeni yn yr Eidal yn y 14g, ac ymledodd i Sbaen a Phortiwgal cyn iddo ddechrau dylanwadu ar ddiwylliant Gogledd Ewrop yn niwedd y 15g. Yn ogystal â mabwysiadu syniadau ac arddulliau o gelf, pensaernïaeth, llenyddiaeth, cerddoriaeth, ac ysgolheictod Eidalaidd, bu gwledydd Gogledd Ewrop yn datblygu mudiadau cenedlaethol a rhanbarthol eu hunain a chanddynt wahanol nodweddion a ffasiynau.
Yn Ffrainc, cyflwynodd y Brenin Ffransis I (t. 1515–47) arddulliau a themâu celf y Dadeni i'w deyrnas drwy brynu celfyddydweithiau o'r Eidal, comisiynu paentiadau gwreiddiol gan arlunwyr Eidalaidd, gan gynnwys Leonardo da Vinci, ac adeiladu palasau crand drudfawr. Yn y Gwledydd Isel, cynyddodd cysylltiadau diwylliannol â'r Eidal ar y cyd â thwf masnachol mewn dinasoedd porthladdoedd megis Brugge ac Antwerp. Er i artistiaid yng Ngogledd Ewrop dynnu yn fwyfwy ar fodelau'r Eidalwyr wrth i'r 15g a'r 16g fynd rhagddi, parhaodd dylanwadau'r Gothig Diweddar yn nodweddiadol o gelf, a phensaernïaeth yn enwedig, nes dyfodiad yr oes Faróc.[1]
Hwyluswyd ymledu ysbryd yr oes ar draws Ffrainc, y Gwledydd Isel, a'r Ymerodraeth Lân Rufeinig, ac yna i wledydd Llychlyn ac ynys Prydain yn ail hanner yr 16g, gan y prifysgolion a'r wasg argraffu, a ddyfeisiwyd ym 1450 gan Johannes Gutenberg. Dylanwadwyd yn fawr ar lenorion ac ysgolheigion fel Rabelais, Pierre de Ronsard, a Desiderius Erasmus gan fodel y dyneiddwyr Eidalaidd ac roeddent yn rhan o'r un mudiad deallusol. Yn ystod y Dadeni Seisnig, a chyd-ddigwyddodd ag oes Elisabeth, blodeuai rhai o'r dramodwyr gwychaf yn hanes llenyddiaeth Saesneg, megis William Shakespeare a Christopher Marlowe. Daethpwyd â'r Dadeni i Wlad Pwyl yn uniongyrchol o'r Eidal gan arlunwyr o Fflorens a'r Gwledydd Isel.
Mewn rhai ardaloedd roedd Dadeni'r Gogledd yn wahanol i Dadeni'r Eidal gan iddo ganoli grym gwleidyddol. Tra yr oedd dinas-wladwriaethau annibynnol yn dominyddu'r Eidal a'r Almaen, dechreuodd y rhan fwyaf o wledydd Ewrop ddatblygu yn genedl-wladwriaethau neu hyd yn oed undebau amlwladol. Roedd gan Ddadeni'r Gogledd gysylltiad agos hefyd â'r Diwygiad Protestannaidd a'r gyfres hir o wrthdaro rhwng gwahanol grwpiau Protestannaidd a'r Eglwys Gatholig, a'r effeithiau parhaol a gafodd y cyfnod hwn ar gymdeithas a diwylliant Ewrop.