Digwyddodd daeargryn Gorllewin Jawa ar 21 Tachwedd 2022, am 13:21 amser lleol, gyda maint o 5.6 Mww, ger Cianjur yn nhalaith Gorllewin Jawa, Indonesia. Bu farw o leiaf 329 o bobl,[1] anafwyd 1,083, ac mae 11 yn dal ar goll.[1] Cafodd mwy na 22,198 o gartrefi eu difrodi yn Cianjur. Teimlwyd y daeargryn yn gryf yn Jakarta.[2]