Daearyddiaeth Albania

Map o Albania

Mae Albania yn un o wledydd y Balcanau. Gorwedd y wlad ar Môr Adria yn y gorllewin, gydag arfordir hir. I'r de mae Albania'n ffinio â Gwlad Groeg (rhanbarth Epiros), i'r dwyrain â Gweriniaeth Macedonia ac i'r gogledd â thalaith Kosovo yn Serbia a gweriniaeth Montenegro.

Mae hi'n wlad fynyddig iawn a elwir weithiau yn "Wlad yr Eryr". Cyfyd y mynyddoedd i uchder o hyd at 2700m (9000 troedfedd) yn nwyrain y wlad. Ceir coedwigoedd sylweddol.

Mae'r tir arfordirol yn ffrwythlon iawn. Rhed gwastadedd sylweddol i lawr ochr orllewinol y wlad ar lan Môr Adria, ac yma y ceir y tir amaeth gorau a'r prif ganolfannau poblogaeth, fel y brifddinas Tirana. Yr unig eithriad yw talaith Vlora yn y de lle ceir bryniau canolig eu maint cyferbyn ag ynys Corfu, Groeg.

Ceir tri llyn mawr sy'n gorwedd yn rhannol yn Albania. Yn y gogledd-orllewin ceir llyn Skadarsko Jezero, ar y ffin â Montenegro. Yn y dwyrain, yn agos iawn i'w gilydd, ceir llynnoedd uchel Llyn Ohrid (sy'n Safle Treftadaeth y Byd) a Llyn Prepansko, a rennir rhwng Albania a Macedonia.

Mae'r prif ddinasoedd a threfi yn cynnwys Tirana, Durrës (y prif borthladd), Shkodër, Shëngjin, Elbasan, Vlorë a Sarandë.

Eginyn erthygl sydd uchod am Albania. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne