Enghraifft o: | clefyd, symptom neu arwydd |
---|---|
Math | viral skin disease |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sylwer: Nid yw'r erthygl hon yn sôn am ddafad (anifail).
Afiechyd ar y croen a achosir gan feirws ydy dafad neu ddafaden. Fe'i ceir fel arfer ar draed (a elwir yn Saesneg yn verruca) neu ar y dwylo (Sa: wart). Yr enw a roddir ar y feirws sy'n ei achosi yw'r papilomafeirus dynol (Sa:human papillomavirus).
Mae nhw'n trosglwyddo o'r naill berson i'r llall yn rhwydd drwy gyffyrddiad croen.[1] Gall y feirws hefyd drosglwyddo o dywel i berson hefyd, neu o lawr. Yn aml, mi wna nhw ddiflannu a dychwelyd am rai blynyddoedd. Ceir tua 100 math o'r feirws.[2]