Dafydd Iwan | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Dafydd Iwan Jones ![]() 24 Awst 1943 ![]() Brynaman ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, canwr, cyfansoddwr caneuon ![]() |
Tad | Gerallt Jones ![]() |
Plant | Llion Iwan ![]() |
Gwefan | http://www.dafyddiwan.com/ ![]() |
Gwleidydd a canwr o Gymru yw Dafydd Iwan (ganwyd Dafydd Iwan Jones, 24 Awst 1943). Mae'n cael ei adnabod fel canwr protest ac un o ffigyrau mwyaf amlwg y sin pop a gwerin yng Nghymru hyd heddiw. Mae hefyd yn aelod blaenllaw o Blaid Cymru a bu'n Lywydd y blaid rhwng 2003 a 2010. Fe'i adnabyddir hefyd fel awdur, cyfarwyddwr busnes a phregethwr cynorthwyol.