Dafydd ap Gwilym | |
---|---|
Ganwyd | c. 1320 Ceredigion, Brogynin Fawr |
Bu farw | c. 1380 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Blodeuodd | 1340 |
Mam | Ardidvil |
Un o feirdd enwocaf Cymru a ystyrir yn feistr mawr y cywydd a'r canu serch oedd Dafydd ap Gwilym (tua 1320 - tua 1380). Fe'i cydnabyddir fel un o feirdd pwysicaf Ewrop gyfan yn ei gyfnod. Roedd yn canu yng nghyfnod Beirdd yr Uchelwyr; credir iddo gael ei eni rhywbryd rhwng 1320 - a 1330 ym mhlwyf Llanbadarn Fawr ger Aberystwyth. Meistrolodd y mesur caeth newydd a ddaeth i fri yn y cyfnod hwn sef y cywydd. Credir iddo farw tua 1380 ac iddo gael ei gladdu yn Abaty Ystrad Fflur.