![]() | |
Enghraifft o: | tacson ![]() |
---|---|
Math | planhigyn blodeuol ![]() |
Safle tacson | genws ![]() |
Rhiant dacson | Coreopsidinae ![]() |
![]() |
Genws o blanhigion lluosflwydd sy'n frodorol i Fecsico a Chanolbarth America yw dahlia. Mae'n aelod o deulu Asteraceae (enw cyfystyr: Compositae). Mae ei berthasau'n cynnwys blodyn yr haul, llygad y dydd, y chrysanthemum, a'r zinnia. Mae yna 49 o rywogaethau dahlia, sydd â blodau ym mron pob lliw (ac eithrio glas). Mae amrywiaethau hybrid yn cael eu tyfu'n gyffredin fel planhigion gerddi.
Daethpwyd â phlanhigion dahlia i Ewrop yn dilyn gorchfygiad ymerodraeth yr Asteciaid gan Sbaen yn 1521.
Enwir y "dahlia" ar ôl Anders Dahl (1751–1789), botanegydd o Sweden.