Dai Jones | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | David John Jones ![]() 18 Hydref 1943 ![]() Putney ![]() |
Bu farw | 4 Mawrth 2022 ![]() Llanilar ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | cyflwynydd teledu, ffermwr, cyflwynydd radio, canwr ![]() |
Gwobr/au | MBE ![]() |
![]() |
|
||||
Yn cael trafferth gwrando ar y ffeil? Gweler Cymorth - sain. |
Canwr, ffermwr, a chyflwynydd teledu a radio o Gymru oedd Dai Jones MBE (18 Hydref 1943 – 4 Mawrth 2022).[1][2] Roedd yn byw yn Llanilar ger Aberystwyth, Ceredigion ac yn cael ei adnabod gan lawer fel Dai Llanilar. Roedd yn cadw gwartheg a defaid ar ei fferm, Berthlwyd. Yn ddiweddarach roedd y ffarm yn cael ei redeg ar y cyd gyda'i wraig Olwen a'i fab John.
Cyhoeddodd ei hunangofiant, Fi Dai Sy' 'Ma ym 1997 ac ail gyfrol Tra Bo Dai yn 2016.[2]