Danylo Apostol | |
---|---|
Portread o Danylo Apostol | |
Ganwyd | 4 Rhagfyr 1654 (yn y Calendr Iwliaidd), 4 Rhagfyr 1658 (yn y Calendr Iwliaidd) Velyki Sorochyntsi |
Bu farw | 17 Ionawr 1734 (yn y Calendr Iwliaidd) Velyki Sorochyntsi |
Dinasyddiaeth | Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diplomydd |
Swydd | Hetman of Zaporizhian Host |
Tad | Pavlo Apostol |
Priod | Uljana Іskricʹka |
Plant | Petro Apostol, Mariya Horlenko, Pavlo Apostol, Hanna Zhurakivska |
Llinach | Q4068112 |
Gwobr/au | Marchog Urdd Sant Alexander Nevsky |
Milwr Cosacaidd o Wcráin oedd Danylo Apostol (Wcreineg: Данило Апостол, 14 Rhagfyr 1654 – 29 Ionawr 1734) a fu'n Hetman—sef bennaeth ar—Lu Zaporizhzhia o 1727 i 1734.
Ganed ef i deulu o swyddogion Cosacaidd ym mhentref Velyki Sorochyntsi (a leolir bellach yn Oblast Poltava, Wcráin), yn rhanbarth hanesyddol Glan Chwith Wcráin—i ddwyrain Afon Dnieper—yn yr Hetmanaeth. Gwasanaethodd yn gyrnol ar gatrawd Myrhorod o 1683 i 1727, gan frwydro'n erbyn yr Ymerodraeth Otomanaidd yn Rhyfel Mawr y Twrc (1683–99) a chyda Tsaraeth Rwsia yn erbyn Ymerodraeth Sweden a'i chynghreiriaid yn ystod cyfnod cyntaf Rhyfel Mawr y Gogledd (1700–08). Yn Nhachwedd 1708, wedi i'r Hetman Ivan Mazepa troi ei gefn ar y Rwsiaid ac ymgynghreirio â Sweden, penderfynodd Danylo gadw'n ffyddlon i'r Tsar Pedr I.[1]
Ym 1722, arweiniodd Danylo fyddin o 10,000 o Gosaciaid yn yr ymgyrch Rwsiaidd yn erbyn Persia. Rhodd Danylo ei gefnogaeth i'r Hetman dros dro Pavlo Polubotok wrth wrthwynebu Colegiwm Rwsia Fechan, a sefydlwyd gan Ymerodraeth Rwsia ym 1722 i weinyddu'r Hetmanaeth. Cafodd Danylo ran mewn Deisebau Kolomak (1723) i alw ar ddiddymu'r colegiwm, ac o'r herwydd fe'i arestiwyd a charcharwyd yng Nghaer y Seintiau Pedr a Pawl, St Petersburg. Diddymwyd y colegiwm o'r diwedd gan y Tsar Pedr ym Medi 1727, ac ar 11 Hydref etholwyd Danylo Apostol yn Hetman Llu Zaporizhzhia gan gyngor y Cosaciaid yn Hlukhiv.[1]
Yn ystod ei lywodraeth, ymdrechodd Danylo i fynnu annibyniaeth yr Hetmanaeth ac i gyfundrefnu ac atgyfnerthu ei sefydliadau. Ym 1728, deisyfodd ar y Rwsiaid i adfer ymreolaeth yn Wcráin ar sail Erthyglau'r Hetman Bodhan Khmelnytsky (1654), a arweiniodd wrthryfel yn erbyn y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd yng nghanol yr 17g. O ganlyniad, cyhoeddodd llywodraeth Rwsia Ordinhadau Awdurdodol 1728 i gyfyngu ar awdurdod yr Hetman tra'n caniatáu iddo reoli lled-wladwriaeth awtonomaidd i raddau. Gyda'i rymoedd, aeth Danylo ati i aildrefnu gweinyddiaeth a chyllid yr Hetmanaeth, ac ym 1729–31 cyfarwyddodd arolwg o dirddaliadaeth ar draws y tiriogaeth er mwyn adfeddiannu unrhyw eiddo gwladol a gipiwyd gan dirfeddianwyr preifat. Ym 1728 hefyd sefydlodd Danylo gomisiwn i gyfundrefnu deddfau'r Hetmanaeth—a fyddai'n cyflwyno Côd Cyfreithiau ym 1743—a dwy flynedd yn ddiweddarach fe orchmynnodd i'r llysoedd barn sefydlu dulliau apeliadol. Ceisiodd leihau'r nifer o Rwsiaid yn y weinyddiaeth a'r lluoedd arfog, a chyhoeddodd waharddiad rhag Rwsiaid yn prynu tir o fewn ei ffiniau. Llwyddodd yn ogystal i drosglwyddo awdurdodaeth dros ddinas Kyiv o'r Llywodraethwr Cyffredinol i'r Hetman ac i adennill awdurdod dros y Cosaciaid a fu'n byw dan Chaniaeth y Crimea ers 1708. Rhoddwyd caniatâd i'r Hetmanaeth sefydlu'r Sich Newydd, ond deufis cyn hynny bu farw Danylo Apostol, yn Ionawr 1734, a fe'i claddwyd yn ei bentref genedigol.[1]