Darth Vader | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Anakin Skywalker ![]() |
Dinasyddiaeth | Galactic Republic, Galactic Empire ![]() |
Galwedigaeth | llofrudd, war criminal, starship pilot, commander-in-chief, swordfighter, marchog ![]() |
Taldra | 202 centimetr ![]() |
Mam | Shmi Skywalker ![]() |
Priod | Padmé Amidala ![]() |
Plant | Luke Skywalker, Princess Leia ![]() |
Perthnasau | Kylo Ren, Han Solo ![]() |
Cymeriad ffuglennol ym mydysawd Star Wars yw Darth Vader, a elwid hefyd yn Anakin Skywalker..[1][2][3] Mae Vader yn ymddangos yn y drioleg Star Wars wreiddiol fel ffigwr canolog gyda'i weithredoedd yn gyrru plot y tri ffilm cyntaf tra fod ei orffennol fel Anakin Skywalker, a stori ei lygriad, yn ganolog i'r drioleg rhaghanes.
Creuwyd y cymeriad gan George Lucas a mae wedi ei bortreadu gan sawl actor. Mae'n ymddangos ar draws y chwe ffilm Star Wars a mae'r cymeriad yn cael ei grybwyll nifer o weithiau yn Star Wars: The Force Awakens. Mae e hefyd yn gymeriad pwysig ym mydysawd estynedig Star Wars mewn cyfresi teledu, gemau fideo, nofelau, llenyddiaeth a llyfrau comics. Yn wreiddiol roedd yn Jedi oedd wedi ei broffwydo i ddod a chydbwysedd i'r 'Force', mae'n syrthio i ochr dywyll y 'Force' ac yn gwasanaethu yr Ymerodraeth Galaethol ddieflig yn llaw dde i'w feistr Sith, Ymerodwr Palpatine (hefyd adwaenid fel Darth Sidious).[4] Fe hefyd yw tad Luke Skywalker a Princess Leia, tad-cu Kylo Ren a gŵr cyfrinachol Padmé Amidala.