David Brooks | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | David Robert Brooks ![]() 8 Gorffennaf 1997 ![]() Warrington ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pêl-droediwr ![]() |
Taldra | 173 centimetr ![]() |
Chwaraeon | |
Tîm/au | A.F.C. Bournemouth, Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru dan 21 oed ![]() |
Safle | canolwr ![]() |
Gwlad chwaraeon | Lloegr, Cymru ![]() |
Mae David Robert Brooks (ganwyd 8 Gorffennaf 1997) yn chwaraewr pêl-droed rhyngwladol dros Gymru sy'n chwarae hefyd i glwb AFC Bournemouth. Ganwyd Brooks yn Warrington a gallai fod wedi chwarae dros ei wlad enedigol Lloegr neu dros Gymru, gan fod ei fam yn dod o Langollen. Yn wir, chwaraeodd i dimau ieuenctid cenedlaethol Lloegr (dan-20) a Chymru (dan-21) yn 2017 cyn chwarae ei gêm gyntaf dros dim dynion Cymru pan ddaeth ar y cae fel eilydd yn y gêm yn erbyn Ffrainc ar 10 Tachwedd 2017.[1]
Cafodd Brooks ei arwyddo gan Bournemouth yng Ngorffennaf 2018 ar gytundeb pedair blynedd a ffi o £11.5 miliwn yn dilyn ei berfformiadau disglair dros Sheffield United yn nhymor 2017-18.[2] Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Bournemouth yn y fuddugoliaeth gartref o 2-0 yn erbyn Dinas Caerdydd [3]