Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | David Rhys George Best Cotterill | ||
Dyddiad geni | 4 Rhagfyr 1987 | ||
Man geni | Caerdydd, Cymru | ||
Safle | Asgellwr | ||
Y Clwb | |||
Clwb presennol | Birmingham City | ||
Rhif | 11 | ||
Gyrfa Ieuenctid | |||
– | Bristol City | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
2004–2006 | Bristol City | 62 | (8) |
2006–2008 | Wigan Athletic | 18 | (1) |
2008 | → Sheffield United (ar fenthyg) | 16 | (0) |
2008–2010 | Sheffield United | 38 | (6) |
2009–2010 | → Abertawe (ar fenthyg) | 4 | (0) |
2010–2012 | Abertawe | 31 | (4) |
2011 | → Portsmouth (ar fenthyg) | 15 | (1) |
2012 | Barnsley | 11 | (1) |
2012–2014 | Doncaster Rovers | 84 | (14) |
2014– | Birmingham City | 36 | (8) |
Tîm Cenedlaethol‡ | |||
2004–2005 | Cymru dan 19 | 3 | (1) |
2005–2007 | Cymru dan 21 | 9 | (4) |
2005– | Cymru | 22 | (2) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 20:07, 28 Mawrth 2015 (UTC). † Ymddangosiadau (Goliau). |
Chwaraewr pêl-droed Cymreig yw David Rhys George Best Cotterill (ganwyd 4 Rhagfyr 1987). Mae'n chwarae fel asgellwr i Birmingham City ac i Gymru.
Fe'i ganwyd yng Nghaerdydd a chychwynodd ei yrfa gyda Bristol City cyn symud i fyny i Wigan Athletic F.C. a oedd yn chwarae yn Uwchgynghrair Lloegr ac yna Sheffield United F.C., ar fenthyciad i ddechrau ac yna'n barhaol. Oddi yno trosglwyddodd Cotterill i Abertawe cyn treulio ysbaid ar fenthyciad i Portsmouth ac yna i Barnsley. Oddi yno aeth i Doncaster Rovers am ddau dymor cyn ymuno gyda Birmingham.
Fel aelod o Dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru, ymddangosodd dros ugain o weithiau gan sgorio ddwywaith.