David Schwimmer | |
---|---|
Ganwyd | David Lawrence Schwimmer 2 Tachwedd 1966 Flushing |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, actor llais, actor llwyfan |
Adnabyddus am | Madagascar |
Taldra | 1.85 metr |
Priod | Zoë Buckman |
llofnod | |
Mae David Lawrence Schwimmer[1] (ganwyd 2 Tachwedd 1966) yn actor, cynhyrchydd a chyfarwyddwr o'r Unol Daleithiau, sy'n cael ei adnabod mwyaf am ei rôl yn y sitcom, Friends. Dechreuodd Schwimmer ei yrfa actio mewn sioeau ysgol yn Beverly Hills High School. Ym 1988, fe graddiodd o'r Northwestern University gyda Bachelor of Arts mewn theatr a lleferydd. Yn dilyn graddio, cyd-greuodd Lookingglass Theatre Company. Am rhan fwya'r 80au roedd e'n byw yn Los Angeles yn trio, ond methu ffeindio swydd parhaol.
Ymddangosodd yn A Deadly Silence ym 1989 a chwpwl o raglenni teledu eraill yn y 90au cynnar gan gynnwys L.A. Law, The Wonder Years, NYPD Blue, a Monty. Yna, roedd Schwimmer yn cael ei adnabod yn fyd-eang ar ôl cychwyn ei rôl fel Ross Geller yn y sitcom Friends. Enillwyd enwebiad Primetime Emmy Award am Outstanding Supporting Actor in a Comedy Series ym 1995. Cyrhaeddodd ei rôl mwyaf mewn ffilm oedd yn The Pallbearer (1996), yna ymddangosodd yn Kissing a Fool (1998), Six Days, Seven Nights (1998), Apt Pupil, a Picking Up the Pieces (y ddau yn 2000). Yna, ymddangosodd yn y gyfres Band of Brothers (2001) yn actio'r rôl Herbert Sobel.
Yn dilyn y bennod olaf o Friends yn 2004, cafodd ei gastio fel Duane Hopwood yn y ddrama o'r un enw yn 2005. Mae'n ymddangos mewn ffilmiau arall megis llais Melman y Jiraff yn y cartŵn Madagascar film franchise, Big Nothing (2006), a'r ffilm Nothing But the Truth (2008). Dechreuodd actio yn y West End yn Llundain erbyn 2005 yn y ddrama Some Girl(s) in 2005. Yn 2006, cafodd rôl ym Broadway am y tro cyntaf yn The Caine Mutiny Court-Martial. Y ffilm cyntaf wnaeth Schwimmer cyfarwyddo oedd y comedi Run Fatboy Run yn 2007.
Yn 2016, dychwelodd i'r teledu i actio'r gyfreithwr Robert Kardashian yn American Crime Story, enillodd enwebiad arall ar gyfer y rôl yma sef Outstanding Supporting Actor in a Limited Series or Movie.
|deadurl=
ignored (help)