David Sedaris | |
---|---|
Geni | David Sedaris 26 Rhagfyr 1956 Binghamton, Efrog Newydd |
Galwedigaeth | Digrifwr, llenor a chyfrannydd radio |
Dinasyddiaeth | UDA |
Dylanwad | Lorrie Moore, Alice Munro, Flannery O'Connor, Tobias Wolff, Richard Yates, Kurt Vonnegut[1] |
Llofnod |
Digrifwr, llenor a chyfrannydd radio o'r Unol Daleithiau yw David Sedaris (ganed 26 Rhagfyr 1956), sydd wedi cael ei nomineiddio ar gyfer Gwobr Grammy.
Mae Sedaris wedi cael ei ddisgrifio fel 'seren roc y llenorion'. Cafodd ei gydnabod yn gyhoeddus am y tro cyntaf ym 1992, pan ddarlledodd National Public Radio ei draethawd "SantaLand Diaries". Cyhoeddodd ei gasgliad cyntaf o draethodau a straeon byrion, Barrel Fever, ym 1994. Mae'r pum casgliad a olynodd, Naked (1997), Holidays on Ice (1997), Me Talk Pretty One Day (2000), Dress Your Family in Corduroy and Denim (2004), a When You Are Engulfed in Flames (2008), wedi dod yn werthwyr gorau ar restr y New York Times.[2][3][4][5][6] Yn 2010, rhyddhaodd gasgliad arall o straeon, Squirrel Seeks Chipmunk: A Modest Bestiary.[7][8][9]
Hyd 2008, roedd ei lyfrau wedi gwerthu dros 7 miliwn copi ar y cyd.[10] Mae'r rhan helaeth o hiwmor Sedaris yn hunangofianol ac yn hunan-anghymeradwyo, ac ym aml yn ymwneud â'i deulu, ei fagwriaeth dosbarth canol ym maestrefi Raleigh, Gogledd Carolina, ei drefdataeth Groegaidd, amryw o swyddi, addysg, defnydd cyffuriau, gwrywgydiaeth, ei fywyd yn Ffrainc, ac yn ddiweddarach yn Llundain a'r Twyni Deheuol, gyda'i bartner, Hugh Hamrick.