David Cameron

Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd David Cameron o Chipping Norton PC
David Cameron


Ysgrifennydd Tramor
Cyfnod yn y swydd
13 Tachwedd 2023 – 5 Gorffennaf 2024
Rhagflaenydd James Cleverly
Olynydd David Lammy

Cyfnod yn y swydd
11 Mai 2010 – 13 Gorffennaf 2016
Rhagflaenydd Gordon Brown
Olynydd Theresa May

Geni (1966-10-09) 9 Hydref 1966 (58 oed)
Llundain
Etholaeth Witney
Plaid wleidyddol Ceidwadwol
Priod Samantha Sheffield

Gwleidydd Seisnig yw David William Donald Cameron, Arglwydd Cameron o Chipping Norton[1] (ganwyd 9 Hydref 1966) sy'n Ysgrifennydd Tramor ers Tachwedd 2023. Cyn hynny bu'n Brif Weinidog y Deyrnas Unedig rhwng 2010 a 2016 ac Arweinydd y Blaid Geidwadol rhwng 2005 a 2016. Roedd Cameron yn AS dros Witney rhwng 2001 a Medi 2016. Mae'n dod o ddinas Llundain, Lloegr.

Mae Cameron yn fab ieuengaf i Ian Donald Cameron (1932-2010), brocer stoc, a'i wraig Mary Fleur (née Mount, ganwyd 1934, ynad heddwch, yn ferch i Syr William Mount, 2il Barwnig). Cafodd ei addysg yng Ngholeg Eton. Astudiodd Cameron Athroniaeth, Gwleidyddiaeth, ac Economeg yng Ngholeg y Trwyn Pres, Rhydychen.

Cyhoeddodd y byddai'n sefyll lawr fel Prif Weinidog ac arweinydd y Blaid Geidwadol ar 24 Mehefin 2016 unwaith i'r blaid ethol arweinydd newydd. Roedd disgwyl i hyn ddigwydd erbyn mis Medi 2016 ond gan mai Theresa May oedd yr unig ymgeisydd ar ôl yn y gystadleuaeth fe'i hetholwyd yn arweinydd newydd ar 11 Gorffennaf 2016. Dyletswydd olaf Cameron oedd cymryd rhan yn sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog ganol ddydd ar 13 Gorffennaf 2016, cyn iddo deithio i Balas Buckingham i gynnig ei ymddiswyddiad i'r Frenhines.

Ym mis Medi 2016, ymddiswyddodd o'i rôl fel Aelod Seneddol gan ddweud nad oedd am "dynnu sylw oddi ar y penderfyniadau pwysig sy'n wynebu fy olynydd yn Stryd Downing a'r llywodraeth".[2]

Dychwelodd i'r Llywodraeth ar 13 Tachwedd 2023 gan ymuno a chabinet Rishi Sunak fel Ysgrifennydd Tramor. Am nad oedd yn aelod seneddol, fe'i ddyrchafwyd i Dy'r Arglwyddi.[3]

  1. "Parliamentary career of Lord Cameron of Chipping Norton". UK Parliament. Cyrchwyd 17 November 2023.
  2. David Cameron yn ymddiswyddo o fod yn AS , Golwg360, 11 Medi 2016. Cyrchwyd ar 13 Medi 2016.
  3. ""Ffars": Ymateb Plaid Cymru wrth i Rishi Sunak ad-drefnu ei Gabinet". Golwg360. 2023-11-13. Cyrchwyd 2023-11-13.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne