David James Davies | |
---|---|
Ganwyd | 2 Mehefin 1893 Carmel |
Bu farw | 11 Hydref 1956 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, economegydd |
Cyflogwr | |
Priod | Noëlle Ffrench Davies |
Economegydd o Gymro oedd David James Davies (2 Mehefin 1893 – 11 Hydref 1956).[1] Yn ôl yr hanesydd, John Davies, roedd DJ Davies yn aelod dylanwadol a blaenllaw yn ddeallusol wrth lunio polisïau economaidd Plaid Cymru yn yr 1930au ymlaen ac wedi ei farwolaeth yn 1956.[2] Talfyrir ei enw, ac fe'i adnebir fel rheol, fel D.J. Davies. Roedd yn briod â'r ymgyrchydd addysg Gwyddelig, Noëlle Ffrench a gyd-awdurodd nifer o'i gyhoeddiadau. Fe ddylanwadwyd arno'n drwm gan ei brodiad yn Ysgol Uwchradd Werin yn Nenmarc ac athrawiaeth sylfaenydd yr ysgolion a chenedlaetholdeb gyfoes werinol Denmarc, N.F.S. Grundtvig.[3]